|
"'Dwi'n hyderus ac mae'r tîm yn hyderus hefyd, ry' ni eisiau mynd allan a mynegi ein hunain o flaen ein cefnogwyr," meddai Hook, 21.
"Roedd colli Stephen yn ergyd drom ond mae'n wych i gael cyfle mewn gêm mor fawr, mae'n siŵr mai 10 yw fy safle go iawn.
"Mae'n rhaid i ni chwarae yn hanner Lloegr, bod yn amyneddgar a chymryd y pwyntiau."
Roedd Hook yn chwarae rygbi lled-broffesiynol â chlwb Castell-nedd yr adeg yma y llynedd ond er nad oedd wedi chwarae'r un gêm i ranbarth Y Gweilch cafodd ei ddewis i deithio i Ariannin â Chymru yn ystod yr haf.
Daeth oddi ar y fainc i sgorio cais yn y Prawf cyntaf ac mae wedi bod yn rhan o bob gêm brawf ers hynny.
Mae wedi dechrau pob un o gemau'r Chwe Gwlad tymor yma yng nghrys rhif 12, ond mae wedi chwarae fel maswr i Gymru.
"'Dwi eisiau osgoi'r baich sydd yn dod gyda holl ddisgwyliadau'r Cymry. 'Dwi eisiau chwarae fy ngêm arferol," meddai Hook wrth BBC Cymru.
"Mae'n gêm anferth - dim ots am y canlyniadau eraill y tymor yma, Cymru v Lloegr ydi hwn.
"Mae cymaint o arweinwyr yn nhîm Cymru beth bynnag, felly mae llai o bwysau ar y maswr."
Bydd Hook yn wynebu maswr diweddaraf Lloegr, Toby Flood, yn Stadiwm y Mileniwm.
"'Dwi erioed wedi chwarae yn ei erbyn o'r blaen ond mae'n amlwg yn chwaraewr talentog gyda dyfodol disglair," meddai Hook.
"Mae'r un peth yn wir am Shane Geraghty sydd ar y fainc. Mae'n mynd i fod yn her, ond 'dwi'n edrych ymlaen."
 |