BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 14 Mawrth 2007
Jones allan o'r gêm â Lloegr

Mae capten Cymru, Stephen Jones, wedi gorfod tynnu yn ôl o dîm Cymru ar gyfer y gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.


Gareth Thomas fydd yn cymryd rôl y capten wedi i Jones dorri ei arddwn gyda James Hook yn symud o safle'r canolwr i wisgo crys rhif 10.

Mae'r anaf i Jones yn debygol, o'i gadw allan am dair wythnos, sy'n golygu ei fod yn amheuaeth ar gyfer gêm Y Sgarlets yn rownd wyth olaf Cwpan Heineken.

Bydd Ceri Sweeney yn cymryd lle Thomas ar y fainc yn yr unig newid i'r 22 gollodd yn erbyn Yr Eidal penwythnos diwethaf.

"Mae Stephen wedi bod yn ysbrydoliaeth o fewn y garfan dros y dyddiau diwethaf ac nid hwn yw'r paratoad gorau yn ystod wythnos bwysig," meddai hyfforddwr Cymru, Gareth Jenkins.

"Er hynny 'da ni'n ffyddiog y bydd Hook yn gallu newid safle ac yn barod am yr her, tra bod cynnwys Thomas yn hwb positif.

"Rydym yn ffodus o allu galw chwaraewr sydd â'r pedigrî o fod yn gapten i lenwi'r bwlch."

Bydd Gareth Thomas yn ennill cap rhif 92 yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn - gan ddod yn gyfartal â record Gareth Llywellyn.


Tîm Cymru i wynebu Lloegr yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn:
Kevin Morgan, Mark Jones, Tom Shanklin, Gareth Thomas, Shane Williams; James Hook, Dwayne Peel; Gethin Jenkins, Matthew Rees, Chris Horsman, Ian Gough, Alun-Wyn Jones, Alix Popham, Martyn Williams, Ryan Jones.
Eilyddion: Duncan Jones, Adam Jones, Rhys Thomas, Brent Cockbain, Jonathan Thomas, Mike Phillips, Ceri Sweeney.

Dyfarnwr: Alain Rolland (Iwerddon)

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy