BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
16eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 15 Mawrth 2007
Easter allan o dîm Lloegr

Mae Nick Easter wedi ei orfodi i dynnu yn ôl o dîm Lloegr ar gyfer eu hymweliad â Chaerdydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.


Mae wythwr yr Harlequins yn dioddef o anaf i'w wddf a bydd ei le yn y tîm yn mynd i James Haskell o'r Wasps.

Bydd Haskell yn chwarae ei gêm rhyngwladol gyntaf fel blaenasgellwr ochr dywyll gyda Joe Worsley yn symud i safle'r wythwr.

Roedd Brain Ashton eisoes wedi gwneud dau newid i'r tîm drechodd Ffrainc y penwythnos diwethaf.

Mae Mark Cueto yn cymryd lle Josh Lewsey yn safle'r cefnwr tra bod Mathew Tait yn chwarae yn y canol ar draul Mike Tindall.

Nid yw perfformiadau Lewsey wedi bod cystal yn ddiweddar ac mae Tindall yn dioddef ag anaf i'w ben glin.

Nid yw'r maswr, Jonny Wilkinson, ar gael ar gyfer y gêm oherwydd anaf i linyn ei âr ac o'r herwydd mae Toby Flood yn cael cyfle arall yn nghrys rhif 10.

Roedd y capten, Phil Vickery, eisoes allan o'r tîm oherwydd anaf.


Tîm Lloegr i herio Cymru:
M Cueto (Sale Sharks); D Strettle (Harlequins), M Tait (Newcastle), M Catt (Gwyddelod yn Llundain, capt), J Robinson (Sale Sharks); T Flood (Newcastle), H Ellis (Caerlŷr); T Payne (Wasps), G Chuter (Caerlŷr), J White (Caerlŷr), M Corry (Caerlŷr), T Palmer (Wasps), J Haskell (Wasps), T Rees (Wasps), J Worsley (Wasps).
Eilyddion: L Mears (Caerfaddon), S Turner (Sale Sharks), L Deacon (Caerlŷr), M Lund (Sale Sharks), S Perry (Bryste), S Geraghty (Gwyddelod yn Llundain), J Noon (Newcastle).

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy