BBC HomeExplore the BBC

LLUN
13eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 01 Chwefror 2007
Thomas allan o'r gemau agoriadol

Bydd Gareth Thomas yn colli tair gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddo gael ei wahardd rhag chwarae am bedair wythnos.


Mewn cyfarfod yn Nulyn, penderfynnodd panel disgyblu'r ERC fod Thomas yn euog o ymddygiad ymosodol yn ystod gêm rhwng Toulouse ac Ulster yng Nghwpan Heineken.

Bydd Chris Czekaj, gafodd ei adael allan o'r garfan ar gyfer Profion yr hydref, yn dechrau ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar yr asgell arall oherwydd anafiadau i Mark Jones a Shane Williams.

A chyda Thomas allan o'r gêm mae Hal Luscombe yn symud i'r asgell gyda Jamie Robinson yn dod oddi ar y fainc i chwarae yn y canol.

Mae modd i Gymru apelio yn erbyn y gwaharddiad ond dywedodd ERC y byddent wedi gallu gwahardd y cefnwr am hyd at 12 wythnos.

"Yn amlwg rydym yn siomedig tu hwnt, ond roeddem wedi paratoi ar gyfer hyn a bydd rhaid i ni ymdopi â her y Gwyddelod ar sail hyn," meddai Jenkins.

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: "Bydd yr Undeb a'n cyfreithwyr yn ystyried oblygiadau'r penderfyniad yma'n ddwys."

Mae Jenkins, wedi dewis Gethin Jenkins a Chris Horsman yn y rheng flaen wrth iddo ddewis pac grymus er mwyn herio blaenwyr Iwerddon.

Mae'n siŵr bod gweld blaenwyr Munster, sydd â chwe aelod o'u pac yn nhîm Iwerddon, yn cael eu chwalu gan Gaerlŷr yng Nghwpan Heineken wythnos diwethaf wedi dylanwadu ar benderfyniad Jenkins .

Stephen Jones fydd yn arwain y tîm o safle'r maswr gyda James Hook yn gwisgo crys rhif 12.

Roedd tîm rheoli Cymru wedi oedi cyn cyhoeddi'r tîm er mwyn rhoi cyfle i Jones (clun) a Williams (ffêr) brofi eu ffitrwydd ond methodd y ddau brawf ffitrwydd hwyr ddydd Iau.

Bydd Ryan Jones yn chwarae ei gêm ryngwladol cyntaf ers y gêm yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm yn 2005, ac ef fydd yn gwisgo'r crys rhif chwech sydd wedi creu cymaint o gur pen i Jenkins.

Alix Popham fydd yr wythwr, gyda Martyn Williams yn cwblhau'r rheng ôl ac Ian Gough ac Alun Wyn Jones fydd yn chwarae yn yr ail reng.


Tîm Cymru i herio Iwerddon:
K Morgan (Y Dreigiau); H Luscombe (Harlequins), J Robinson (Y Gleision), J Hook (Y Gweilch), C Czekaj (Y Gleision); S Jones (Y Sgarlets, capt), D Peel (Y Sgarlets); G Jenkins (Y Gleision), R Thomas (Y Gleision), C Horsman (Caerwrangon), I Gough (Y Dreigiau), A Wyn Jones (Y Gweilch), A Popham (Y Sgarlets), M Williams (Y Gleision), R Jones (Y Gweilch).
Eilyddion: M Rees (Y Sgarlets), Duncan Jones (Y Gweilch), R Sidoli (Y Gleision), Gavin Thomas (Y Sgarlets), M Phillips (Y Gleision), C Sweeney (Y Dreigiau), A Brew (Y Dreigiau).

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy