|
Yr ymwelwyr oedd ar y blaen 12-11 ar yr egwyl diolch i geisiau Jason Tovey ac Aled Brew, gyda Shaun Connor yn trosi cais Brew. Ond Caerlŷr fu'n rheoli'r ail hanner wedi cais Anthony Allen a chais cosb i ychwanegu at y cais sgoriodd Jordan Crane yn yr hanner cyntaf. Er i Rhodri Gomer Davies groesi am gais i'r Dreigiau sicrhaodd Flood, yn chwarae ei gêm gyntaf ers chwe mis, buddugoliaeth i'r tîm cartref.
 |