BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 08 Tachwedd 2009
Harlequins 15-15 Scarlets

Llithrodd buddugoliaeth drwy fysedd tîm ifanc y Scarlets yn y Cwpan Eingl-Gymreig wrth i Morgan Stoddart wastraffu cyfle euraidd gyda symudiad olaf y gêm.

Tarodd y cefnwr y bêl ymlaen wrth geisio ei chasglu dros linell gais Harlequins.

Cyn hynny, methodd y tîm cartref gyfle i fynd ar y blaen gyda phum munud yn weddill wrth i gic cosb Rory Clegg fynd heibio'r postyn.

Aeth y Quins ar y blaen wedi pedwar munud wrth i David Strettle groesi am gais, ond roedd y Scarlets 10-7 ar y blaen ar yr hanner diolch i drosgais Gareth Maule a chic gosb Rhys Priestland.

Agorwyd y fantais gyda chais Andy Fenby, ond roedd Priestland yn aflwyddiannus gyda'r trosiad.

Tarodd Quins yn ôl gyda thri phwynt o droed Clegg cyn i gais George Robson wedi 55 munud sicrhau gêm gyfartal.


Harlequins: Brown; Strettle, Tiesi, Mordt, Drauniniu; Clegg, So'oialo; Croall, Brooker, Johnston, Percival, Robson, Robshaw (capt), McMillan, Guest.
Eilyddion: Cairns, Lambert, Andress, Stevenson, York, Dickson, Luvenyali, Lowe.

Scarlets: Morgan Stoddart; Joe Ajuwa, Gareth Maule, Rob Higgitt (capt), Andy Fenby; Rhys Priestland, Tavis Knoyle; Phil John, Ken Owens, Deacon Manu, Vernon Cooper, Damian Welch, Rob McCusker, Richie Pugh, Josh Turnbull.
Eilyddion: Jamie Corsi, Emyr Phillips, Simon Gardner, Aaron Shingler, Johnathan Edwards, Gareth Davies, Daniel Newton, Scott Williams.

Dyfarnwr: Tim Hayes (URC).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy