|
Dioddefodd Jones anaf i'w ben-glin wrth ymarfer gyda charfan Cymru dros y penwythnos sy'n golygu y bydd yn colli cyfres yr hydref. Mae'r chwaraewr 29 mlwydd oed hefyd yn sicr o golli gemau cyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sy'n cychwyn ar 6 Chwefror. Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, ei fod yn cydymdeimlo'n fawr gyda Jones, sydd wedi dioddef nifer o anafiadau hirdymor yn ystod ei yrfa. "Mae e wedi bod yn wych i ni fel capten ac fel chwaraewr," meddai Davies, wrth i'w dîm baratoi i herio Harlequins yn y Cwpan Eingl-Gymreig brynhawn Sul. "Mae wedi bod yn anlwcus iawn. "Ond mae'n rhywun sydd yn bositif iawn a 'dwi'n gwybod y bydd yn dod yn ei ôl. "Mae ganddo brofiad o ddod yn ei ôl wedi anafiadau mawr o'r blaen." Bydd y Scarlets yn wynebu Harlequins ddydd Sul heb eu chwaraewyr rhyngwladol, gyda Chymru yn herio Seland Newydd y diwrnod blaenorol. Ond mae Davies yn teimlo bod hi'n allweddol i'r Scarlets fel tîm ac fel busnes bod gemau yn cael eu cynnal yn ystod cyfnod y gemau rhyngwladol.
 |