BBC HomeExplore the BBC

GWENER
18fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 15 Gorffennaf 2009
Cysondeb yn allweddol - Cooper

Mae mewnwr Cymru, Gareth Cooper yn edrych ymlaen at y tymor newydd ar ôl ymuno gyda'r Gleision.

Gareth Cooper

Cyn dychwelyd i Gymru, roedd Cooper yn aelod o dîm Caerloyw gollodd deirgwaith yn erbyn y Gleision y tymor diwethaf.

Collodd y clwb o Uwchgynghrair Guinness ddwywaith yn erbyn y rhanbarth yng Nghwpan Heineken cyn cael eu trechu yn rownd derfynol Cwpan EDF Energy.

A dywed Cooper bod angen i'w glwb newydd ddangos cysondeb y tymor nesaf os am sicrhau llwyddiant.

"Mae gan y clwb ddyheadau ac ry' ni eisiau bod yn yr holl gystadleuaeth erbyn diwedd y tymor," meddai.

"Fe wnaethom ni ddangos ar brydiau y tymor diwethaf, yn enwedig yng Nghwpan Ewrop, pa mor dda yw'r Gleision.

"Ond bydd cysondeb yn allweddol y tymor hwn, yn enwedig yng Nghynghrair Magners."

Ychwanegodd Cooper, deithiodd gyda'r Llewod i Seland Newydd yn 2005, ei fod yn edrych ymlaen ar gael chwarae yng nghartref newydd y Gleision yn Leckwith.

"Mae 'n dda cael bod yn ôl ac mae'n gyfnod cyffrous i mi fod yn ymuno gyda'r Gleision," meddai.

"Gobeithio y gallem ni ddechrau'r tymor yn dda a byddwn yn denu'r tyrfaoedd.

"'Dwi'n siŵr y bydd yr awyrgylch yma yn anhygoel."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy