BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 14 Gorffennaf 2009
Easterby yn cael swydd Moriarty

Mae Paul Moriarty wedi gadael ei swydd fel hyfforddwr blaenwyr y Scarlets, ac mae'r cyn gapten Simon Easterby wedi cael ei benodi yn chwaraewr-hyfforddwr.

Paul Moriarty

Ni fu Moriarty yn bresennol wrth i chwaraewyr y Scarlets ddechrau eu paratoadau ar gyfer y tymor newydd.

Symudodd cyn chwaraewr Cymru i Lanelli o Abertawe yn 2003 a bu'n aelod o dîm hyfforddi Phil Davies ac yn hyfforddwr dros dro am gyfnod y llynedd.

Easterby fydd yn hyfforddi'r blaenwyr y tymor nesaf ar ôl cael ei benodi yn chwaraewr-hyfforddwr.

"Mae'n gyfle 'dwi'n falch 'dwi wedi derbyn," meddai Easterby.

"Mae hwn yn rhywbeth 'dwi wedi bod yn ei ystyried ers tro. 'Dwi wedi bod yn edrych ar opsiynau wrth i mi symud ymlaen o fy ngyrfa fel chwaraewr.

"Bydd gweithio fel hyfforddwr tyn her newydd i mi ac un 'dwi am fwynhau."

Fe ymunodd y Gwyddel gyda Llanelli ym 1999 ac wedi chwarae 187 o gemau i'r rhanbarth.

Bydd yn cydweithio'n agos gyda'r prif hyfforddwr Nigel Davies a'i gynorthwywyr John Muggleton a Brad Harrington.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy