|
Roedd adroddiad ym mhapur newydd y Sun fore Llun wedi awgrymu bod Henson yn ystyried ei ddyfodol yn dilyn cyfres o anafiadau.
Ond mewn datganiad fe ddywedodd y chwaraewr 27 oed ei fod yn bwriadu parhau.
"Yn sicr 'dwi wedi bod yn cael anawsterau gyda'r anafiadau ond does gen i ddim bwriad o gwbl o roi gorau i'r gêm," meddai Henson.
"'Dwi'n derbyn y gofal meddygol gorau er mwyn fy helpu gyda'r broblem a 'dwi'n siŵr y byddwn yn gallu ei roi y tu ôl i mi yn y dyfodol agos.
Bu sibrydion nad oedd Henson wedi mynychu ymarferion gyda'r Gweilch yn Llandarcy.
Ond cadarnhaodd y Gweilch mewn datganiad bod Henson wedi bod yn bresennol er mwyn derbyn triniaeth i'w anaf.
Ac fe ddywedodd rheolwr gyfarwyddwr y rhanbarth, Mike Cuddy bod Henson yn canolbwyntio ar y tymor newydd.
"Mae hi wedi bod yn anodd iawn i Gavin orfod delio gyda'r holl sibrydion ei fod yn ymddeol ar gyfnod pan mae'n ceisio gwella o anaf," meddai Cuddy.
"Mae Gavin Henson wedi chwarae rhan blaenllaw yn llwyddiant y Gweilch hyd yn hyn ac ry' ni'n edrych ymlaen at ei weld yn perfformio ar y maes unwaith yn rhagor y tymor nesaf.
"Mae'n dalent aruthrol yn gaffaeliad i dimau'r Gweilch a Chymru.
"'Rwy'n gwybod yr oedd yn hynod siomedig i golli allan ar daith y Llewod yn ddiweddar, ond mae'n awr yn edrych ymlaen at ddychwelyd i chwarae rygbi ar y lefel uchaf yn ystod y tymor i ddod a thu hwnt."
 |