BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 08 Gorffennaf 2009
Roberts yn ffyddiog dros ei anaf

Mae Jamie Roberts yn hyderus o fod yn holliach er mwyn cychwyn y tymor newydd gyda Gleision Caerdydd.

Jamie Roberts

Bu'n rhaid i'r canolwr golli Prawf olaf y Llewod yn erbyn De Affrica oherwydd anaf i'w arddwrn.

Ond nid yw Roberts wedi torri asgwrn ac fe fydd yn cychwyn ymarfer eto ar ôl dychwelyd wedi pum wythnos o wyliau.

"Ges i X-ray yn Ne Affrica nath ddangos bod di byd wedi torri," dywedodd Roberts, fu'n gwylio'r chwarae rhwng Lloegr ac Awstralia ym Mhrawf cyntaf y Lludw yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

"Dwi newydd gael sgan MRI i weld beth yn union yw'r broblem ac fyddai'n cael y canlyniadau cyn hir.

"Dwi'n edrych ymlaen at gael gwyliau yn California a Sbaen nesaf - ges i ddim llawer o gwsg yn ystod yr wythnos olaf yn Ne Affrica! Ac wedyn fyddai'n barod i gychwyn y tymor newydd gyda'r Gleision."

Cafodd perfformiadau disglair Roberts drwy gydol y daith eu cydnabod wrth iddo gael ei enwi fel chwaraewr disgleiriaf y daith i'r Llewod.

Dywedodd ei fod yn dal yn cael trafferth credu ei fod wedi ennill anrhydedd o'r fath, gan ddweud mai "pleser oedd bod yn rhan o daith mor arbennig".

"Fel tîm, fe wnaethom ni bopeth heblaw am ennill y gyfres," meddai wrth gyfeirio at y ffaith i'r De Affrica gipio'r gyfres 2-1.

"Oedd hi mor anffodus bod ni wedi methu i ennill y ddwy Brawf gyntaf. Ond dyna ni, dwi'n meddwl bod ni wedi dod yn ôl wedi ennill dipyn o barch."

Roedd Roberts yn un o 10 Cymro chwaraeodd ran flaenllaw iawn yn ystod y daith.

Dywedodd y canolwr ei fod yn hyderus y bydd y profiad yn sicr o elwa'r garfan genedlaethol gyfan.

"Roedd y gemau mor gorfforol ac roedd y dwyster yn anhygoel - mor wahanol i gemau clwb a hyd yn oed gemau rhyngwladol," meddai.

"Roedd e gam ymlaen ymhellach a dwi'n gobeithio bydd y bois yn gallu trosglwyddo hynny i gyfres yr hydref sy'n dod lan."

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy