|
Daw cytundeb presennol Young gyda'r Gleision i ben ar ddiwedd tymor nesaf, ac mae cyn brop Cymru eisoes wedi cael ei gysylltu gyda swyddi hyfforddi gyda chlybiau eraill, megis Caerlŷr. "Mae hynny'n well na chlywed y sibrydion sydd wedi bod dros y tair blynedd ddiwethaf bod Dai Young am gael y sac!" dywedodd Young. "Mae gen i gytundeb am flwyddyn arall a fedra i ddim edrych ymhellach na hynny am wn i. "Dyna sut dwi'n edrych ar bethau ar hyn o bryd. Mae gen i'r tymor yma a'r tymor nesaf, ac mae'n holl gynlluniau i wedi cael eu targedu tuag at hynny." Young sydd wedi bod wrth y llyw gyda'r Gleision ers sefydlu'r rhanbarth yn 2003. Mae'r perfformiadau yn Ewrop y tymor yma wedi bod yn galonogol wrth i'r tîm nesáu at le yn rownd yr wyth olaf yn y Cwpan Heineken, ond siomedig bu'r canlyniadau yng Nghynghrair Magners. Dywedodd Young y byddai'n hapus i ymestyn ei gytundeb gyda chlwb y brifddinas, ond ategodd hefyd ei fod yn awyddus i hyfforddi tu allan i Gymru cyn bo hir. "Os na i benderfynu aros ac os bydd y clwb (y Gleision) am i mi aros, yna grêt," ategodd Young. "Os ddim, yna mi fydd hi'n amser i mi feddwl am symud, ond ddim dyma'r amser iawn i wneud hynny. "Mae symud yn rhywbeth naturiol i mi wneud - ddim rŵan a ddim yn y dyfodol agos - ond mae symud yn gam naturiol i mi. "Dwi eisiau cael y profiad o hyfforddi tu allan i Gymru. Dwi eisiau'r her yna o weithio mewn sefyllfa wahanol oherwydd dwi'n meddwl bydd hynny'n fy ngwneud yn hyfforddwr gwell."
 |