BBC HomeExplore the BBC

LLUN
13eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 19 Ebrill 2007
Marshall yn ymestyn ei gytundeb

Mae'r mewnwr, Justin Marshall, wedi arwyddo cytundeb newydd â'r Gweilch fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty hyd at ddiwedd tymor 2008/9.

Roedd y chwaraewr 33-mlwydd-oed, enillodd 81 cap dros Seland Newydd, wedi gwadu sibrydion y byddai'n gadael y rhanbarth yn ystod yr haf.

Ac mae wedi cadw at ei air trwy ychwanegu dwy flynedd i'r cytundeb arwyddodd pan gyrhaeddodd Y Gweilch ym mis Ebrill 2006.

"Mae'r tîm yn fy nhrin yn dda, 'dwi'n cael fy rheoli'n dda. Mae'r Gweilch yn arbennig," meddai Marshall.

Roedd y ffaith bod y mewnwr, Mike Phillips, yn ymuno â'r Gweilch o'r Gleision wedi ychwanegu at y dyfalu ynghylch dyfodol Marshall.

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi'r Gweilch, Kevin Hopkins: "Ry' ni wrth ein boddau bod chwaraewr o safon Justin wedi dangos ymroddiad i'r rhanbarth trwy ymestyn ei gytundeb.

"Mae hyn yn adlewyrchu'n dda ar y rhanbarth a'i gobeithion ar gyfer y dyfodol."

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy