|
Roedd y canlyniad yn y fantol hyd y diwedd cyn i Liam Tredwell dorri'n glir ar ôl y glwyd olaf i sicrhau buddugoliaeth i'r hyfforddwraig Venetia Williams ac yntau'n cystadlu yn y Grand National am y tro cyntaf.
Fe ddaeth ceffyl yr hyfforddwr Evan Williams o Fro Morgannwg, State of Play, yn bedwerydd gyda My Will yn drydydd.
Bu'n rhaid ail ddechrau ras ar ddau achlysur wrth i'r ceffylau dorri'r tap cyn bod y dechreuwr yn hapus bod y ceffylau i gyd mewn trefn.
 |