BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 15 Tachwedd 2009
Westwood yn amddiffyn Saunders

Mae'r capten Ashley Westwood wedi amddiffyn y rheolwr Dean Saunders, oedd yn absennol wrth i Wrecsam golli o 2-0 gartref yn erbyn Hayes & Yeading.

Ashley Westwood
Yr oedd Saunders ar ddyletswydd rhyngwladol fel aelod o dîm hyfforddi Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd.

A bu rhai o gefnogwyr Wrecsam yn galw am ben Saunders wrth i'r Dreigiau ddisgyn i'r 15fed safle yn Uwchgynghrair Blue Square.

Dirprwy Saunders, Brian Carey, oedd wrth y llyw ar gyfer ymweliad Hayes & Yeading, wrth i Wrecsam golli am y tro cyntaf mewn saith gêm.

"Y chwaraewyr sydd wedi gadael y rheolwr i lawr," meddai Westwood.

"Pe byddai wedi bod yma be alle fe wedi ei wneud? Tydi o ddim yn gallu bod ar y maes yn cicio'r bêl.

"Fe dyma'n dewis y tîm, mae wedi bod yn ein paratoi yn ystod yr wythnos ac ni alle fe wedi gwneud dim mwy.

"Rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb fel unigolion a peidio rhoi'r bai ar rywun oherwydd nad oeddynt yn bresennol."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy