|
Roedd yr ymwelwyr ar y blaen wedi naw munud gyda Toby Little yn rhwydo yn dilyn croesiad Esmond James. Ac fe sgoriodd Little ei ail ddau funud yn ddiweddarach wedi i Wrecsam fethu a chael gwared â'r perygl. Cwblhawyd pnawn i'w anghofio i'r Dreigiau yn fuan yn yr ail hanner pan welodd Lamine Sakho y cerdyn coch am ddefnyddio ei ben yn erbyn James. Ar ddiwedd y gêm bu rhai o gefnogwyr Wrecsam yn datgan eu hanfodlonrwydd gyda'r rheolwr Dean Saunders, oedd gyda charfan Cymru yng Nghaerdydd. Wrecsam: Maxwell, Spann (Taboubi 32), Assoumani, Westwood, Mike Williams (Neil Taylor 46), Obeng (Marc Williams 74), Fleming, Smith, Sakho, Gareth Taylor, Baynes. Eilyddion: Russell, Cieslewicz. Cerdyn coch: Sakho (52). Cerdyn melyn: Baynes, Sakho, Obeng, Taboubi. Hayes & Yeading: Overland, Allen-Page, Cadmore, Ruby (El-Abd 25), Green, James (Palmer 71), Mulley, Marc Canham, Cochrane, Little, Sean Canham (Watkins 85). Eilyddion: Baker, Marwa. Cerdyn melyn: Mulley, Cochrane. Goliau: Little 9, 11. Torf: 2,427. Dyfarnwr: P Davison
 |