Roedd y tîm cartref ar y blaen wedi pum munud gyda Anthony Elding, sydd wedi ail ymuno gyda'r clwb ar fenthyg, yn sgorio gyda pheniad o groesiad Simon Heslop.
Ond roedd Wrecsam yn gyfartal naw munud yn ddiweddarach gyda'r golwr Lee Harper yn taro'r bêl i'w rwyd ei hun yn dilyn ergyd Mansour Assoumani.
Sgoriodd Ashley Westwood ei gôl gyntaf mewn blwyddyn i roi Wrecsam ar y blaen ond i Marna achub pwynt i'w dîm o'r smotyn yn yr eiliadau olaf wedi i Mike Williams droseddu yn erbyn Elding.
Mae Wrecsam wedi ymestyn eu rhediad heb golli i bum gêm ac yn codi un safle i 14eg yn Uwchgynghrair Blue Square.
Kettering: Harper, Taylor (Marna 76), Geohaghon, Dempster, Jennings, Green (Carayol 53), Wrack, Heslop, Noubissie (Thomas 63), Ashikodi, Elding.
Eilyddion: Eaden,Spencer.
Cerdyn melyn: Heslop, Dempster
Goliau: Elding 5, Marna (c.o.s.) 90+6
Wrecsam: Maxwell, Obeng, Westwood, Assoumani, Mike Williams, Spann, Fleming, Smith, Sakho (Jones 70), Gareth Taylor, Baynes.
Eilyddion: Williamson, Marc Williams, Cieslewicz, McCluskey.
Cerdyn melyn: Smith, Spann, Assoumani
Goliau: Harper (g.r.h.) 14, Westwood 22
Torf: 1,186
Dyfarnwr: David Coote (Newark)