|
Ar ôl cyd chwarae da gyda Christian Smith fe gafodd Wes Baynes gyfle gwych i roi Wrecsam ar y blaen yn ystod yr ugain munud agoriadol. Ond fe wastraffodd Baynes y cyfle gyda dim ond golwr Ebbsfleet Lance Cronin i'w guro cyn i Smith wastraffu cyfle arall yn ddiweddarach. Gyda dau funud o'r hanner cyntaf yn weddill roedd Wrecsam ar y blaen gyda Baynes yn creu'r gôl ar gyfer Lamine Sakho, rwydodd gydag ergyd isel. Fe prynhawn Ebbsfleet o ddrwg i waeth yn ystod yr ail hanner pan gafodd Leon Crooks ei ddanfon o'r maes am lorio Baynes wedi 67 munud. Ac fe gwblhaodd y tîm cartref y gêm gyda naw dyn ar ôl i Elliott Charles weld y cerdyn coch yn dilyn tacl wyllt ar y golwr Chris Maxwell.
Ebbsfleet United: Cronin, Heeroo, Crooks, Darius Charles, Easton (Pooley 71), Wills (Shakes 46), Holmes, Henry (Bailey 46), Welsh, Elliot Charles, Vieira. Eilyddion: West, Ginty. Cerdyn melyn: Crooks (67), Elliot Charles (85). Wrecsam: Maxwell, Spann, Westwood, Assoumani, Mike Williams, Jones (Fairhurst 64), Fleming, Smith, Sakho (McCluskey 79), Baynes, Gareth Taylor. Eilyddion: Williamson, Marc Williams, Cieslewicz. Cerdyn melyn: Spann, Gareth Taylor, Baynes. Goliau: Sakho 43. Torf: 969 Dyfarnwr: G Jerden (Hampshire).
 |