|
Roedd Lowestoft yn fuddugol o 4-2 yn erbyn Caerloyw mewn gêm ail chwarae yn y bedwaredd rownd rhagbrofol nos Fawrth. Sgoriodd Andrew Frisk ddwywaith i'r Trawler Boys, sydd yn chwarae yn Adran Gyntaf y Gogledd Cynghrair Isthmian. Bydd y gêm ar y Cae Ras yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 7 Tachwedd a dyma'r tro cyntaf i Lowestoft gyrraedd y rownd gyntaf ers 1978. Roedd Wrecsam eisoes wedi sicrhau eu lle yn y rownd gyntaf gyda buddugoliaeth o 1-0 yn FC Halifax y Sadwrn diwethaf.
 |