BBC HomeExplore the BBC

LLUN
16eg Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 12 Gorffennaf 2009
Perfformiad yn plesio Saunders

Dywedodd rheolwr Wrecsam Dean Saunders ei fod wrth ei fodd gyda pherfformiad ei dîm yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Coventry ddydd Sadwrn.

Dean Saunders

Sgoriodd Marc Williams yn yr hanner cyntaf i roi'r Dreigiau ar y blaen, ond fe darodd yr ymwelwyr o'r Bencampwriaeth yn ôl yn yr ail hanner i sicrhau gêm gyfartal diolch i beniad Jermaine Grandison.

"Dwi'n gobeithio bod y gêm wedi rhoi hyder i'r chwaraewyr oherwydd roedd hi'n berfformiad da iawn," dywedodd Saunders.

"Roedd yr hanner cyntaf yn wych. Fe ildiom ni gôl o gic gornel yn yr ail hanner, ac mae hynny'n digwydd weithiau pan da chi'n rhoi 10 chwaraewr newydd ymlaen."

Rhoddodd Williams y Dreigiau ar y blaen wedi 25 munud yn dilyn camddealltwriaeth erchyll yn amddiffyn yr ymwelwyr.

Aeth y tîm cartref ymlaen i reoli gweddill yr hanner, ond daeth Coventry yn ôl i mewn i'r gêm yn yr ail hanner wrth i Saunders roi cyfle i nifer o chwaraewyr ifanc a rai eraill sydd ar brawf.

Jermaine Grandison sgoriodd y gôl i sicrhau gêm gyfartal wrth iddo benio yn nerthol o gic gornel Danny Fox.

Bydd Wrecsam yn chwarae oddi cartref yn erbyn Prestatyn o Uwch Gynghrair Cymru yn eu gêm baratoadol nesaf nos Lun.


Wrecsam (Hanner cyntaf): Half Chris Maxwell, Silvio Spann, Sam Williamson, Darran Kempson, Mike Williams, Adrian Cieslewiecz, Mark Jones, Andy Fleming, Neil Taylor, Marc Williams, Gareth Taylor.

(Ail hanner): ChrisMaxwell, Joaquin Medinilla-Cabotti, Chris Smith, Kai Edwards, Jonas Tor Naes (Hedi Taboubi 67), Wes Baynes, Tom Kearney, Nathan Fairhurst, Jamie McCluskey (Mani 75), Steve Abbott, Simon Brown.

Coventry City: Dimi Konstantopolous (Kieren Westwood 46); Curtis Wynter (Jordan Clarke 26), Ben Turner (Elliott Ward 46), James McPake (Jermaine Grandison 46), Marcus Hall (Stephen Wright 46); Ashey Cain (David Bell 46), Michael Doyle (Aron Gunnarsson 46), Issac Osbourne (Adam Walker 46), Danny Fox (Ashley Cain 65); Clinton Morrison (Freddie Eastwood 62), Freddie Eastwood (Leon Best 35).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy