BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
1af Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 11 Gorffennaf 2009
Wrecsam yn targedu golwr Lerpwl

Mae Lerpwl wedi cytuno i yrru'r golwr ifanc Dean Bouzanis ar fenthyg i Wrecsam y tymor nesaf.

Dean Bouzanis

Y syniad yw i Bouzanis, sy'n 18 mlwydd oed, barhau i ymarfer gyda Lerpwl ond yn chwarae i'r Dreigiau yn Uwchghynghrair Blue Square.

Mae Wrecsam yn gobeithio dod i gytundeb gyda'r chwaraewr yr wythnos nesaf.

Yn ôl y Dreigiau, mae rheolwr Lerpwl Rafael Benitez yn ystyried Bouzanis fel y golwr gorau o'i oed yn y byd.

Cafodd Bouzanis ei eni yn Awstralia, ac mae o hefyd yn gymwys i chwarae dros Wlad Groeg.

Chwaraeodd Wrecsam eu gêm baratoadol gyntaf o'r haf ddydd Sadwrn yn erbyn Coventry ar y Cae Ras.

Rhoddodd Marc Williams y Dreigiau ar ôl 25 munud wedi camgymeriad gan golwr Coventry, Dimi Konstantopolous, ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl i sicrhau gêm gyfartal diolch i beniad Jermaine Grandison wedi'r toriad.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy