|
Treuliodd chwaraewr rhyngwladol Mali, sy'n cael ei adnabod fel Mani, gyfnod gyda Wrecsam y tymor diwethaf. Chwaraeodd dair gêm i'r Dreigiau cyn y cafodd ei yrru o'r maes yn erbyn Altrincham gan golli diwedd y tymor oherwydd gwaharddiad. Ond mae'r chwaraewr 26 oed, ddechreuodd ei yrfa gyda Montpellier, wedi gwneud digon i berswadio Dean Saunders i'w arwyddo.
 |