|
Treuliodd Flynn hanner olaf y tymor diwethaf gyda'r Dreigiau ar fenthyg o Lerpwl, gan sgorio pedwar gôl mewn 21 ymddangosiad. Roedd y rheolwr Dean Saunders yn awyddus iawn i'w arwyddo am gyfnod arall ond mae Lerpwl wedi ei yrru i chwarae yn Uwch Gynghrair yr Alban gyda Falkirk. Symudodd y chwaraewr 20 mlwydd oed i Anfield o Falkirk yn 2005. Yn y cyfamser, mae'r amddiffynnwr Ashley Westwood wedi dweud ei fod yn fodlon arwyddo am flwyddyn arall ar ôl i'r clwb gynnig cytundeb newydd iddo.
 |