|
Mae'r chwaraewr canol cae 18 oed wedi cytuno ar delerau blwyddyn ar ôl treulio dwy flynedd a hanner yn Eastlands. Mae Wrecsam hefyd yn cynnal trafodaethau gydag Andrew Mangan, prif sgoriwr Uwchgynghrair Blue Square y tymor diwethaf. Mae cytundeb Mangan gyda Forest Green Rovers yn dirwyn i ben ac mae'n cynnal trafodaethau gyda sawl clwb. Sgoriodd Mangan 26 gôl y tymor diwethaf ond mae'n wynebu cyhuddiadau gan FA Lloegr sy'n dyddio yn ôl i'w gyfnod gyda Bury. Fe fydd y gymdeithas yn cynnal ymchwiliad yn ymwneud â honiadau bod chwaraewyr wedi torri rheolau wrth fetio ar ganlyniad gêm. Chwaraewr na fydd ar y Cae Ras y tymor nesaf yw Nat Brown, sydd wedi gadael y clwb er bod ganddo flwyddyn o'i gytundeb yn weddill.
 |