|
Ar ôl gadael Doncaster Rovers ddiwedd y tymor diwethaf bu'r chwaraewr 26 oed yn trafod gyda Dean Saunders ynglŷn â symud i'r Cae Ras. "Dwi'n falch iawn ein bod wedi gallu arwyddo Gareth," meddai Saunders, oedd gyda Taylor am gyfnod yn Sheffield United. "Fe yw'r math o chwaraewr profiadol dwi wedi bod yn awyddus i arwyddo i gyd chwarae gyda Marc Williams a Obi Anoruo. "'Dwi'n meddwl y bydd hi'n bwysig i'r ymosodwr ifanc i gael rhywun fel Gareth ar y maes gyda nhw gan y bydd yn eu helpu i'w gwneud yn chwaraewyr gwell." Enillodd Taylor, anwyd yn Weston-super-Mare, 14 cap dros Gymru ac fe sgoriodd unwaith i'r tîm cenedlaethol yn erbyn yr Alban yn 2004. Mae Taylor wedi chwarae i nifer o glybiau gan gynnwys Bristol Rovers, Crystal Palace, Manchester City, Nottingham Forest a Tranmere Rovers.
 |