|
Dim ond dwywaith y chwaraeodd Critchell i'r Dreigiau y tymor diwethaf ar ôl symud i'r Cae Ras o Weymouth y llynedd.
Bu Critchell allan am bedwar mis gydag anaf cyn treulio cyfnodau ar fenthyg gyda York City a Weymouth.
Roedd gan gyn chwaraewr Southampton flwyddyn yn weddill ar ei gytundeb gyda Wrecsam.
Ond mae'r chwaraewr a'r clwb wedi penderfynu ar y cyd i ddileu'r cytundeb hwnnw.
 |