BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
19eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 25 Chwefror 2006
Wrecsam 1-3 Amwythig

Mae Brian Carey yn parhau i ddisgwyl am ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr Wrecsam wedi i Amwythig drechu 10-dyn Wrecsam ar Y Cae Ras brynhawn Sul.

Manteisiodd Leo Fortune-West ar amddiffyn llac Wrecsam i roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi saith munud ac ychwanegodd Asamoah ail gôl hanner awr yn ddiweddarach.

Aeth pethau o ddrwg i waeth wedi 39 munud wrth i Steve Evans gael ei hel o'r maes am y trydydd tro'r tymor yma yn dilyn tacl fler ar David Edwards.

Rhwydodd Leo Fortune-West ei ail gôl bum munud wedi'r egwyl ond cafwyd llygedyn o obaith i'r Dreigiau bedwar munud yn ddiweddarach wedi i Danny Williams daro ergyd odidog o 25 llath i gornel uchaf y rhwyd.

Brwydrodd 10-dyn Wrecsam yn ddewr wedi'r gôl gyda Mark Jones a Neil Roberts yn creu problemau i amddiffynwyr Amwythig, ond roedd y dasg yn ormod i'r Dreigiau.


Wrecsam: Ruddy, Danny Williams, Steve Evans, Gareth Evans, Roche, Whitley, Mark Jones, Garrett, Barron, Roberts, Llewellyn.
Eilyddion: Michael Jones, McEvilly, Carvill, Mike Williams, Done.

Amwythig: MacKenzie, Hope, Burton, Langmead, Herd, Edwards, Drummond, Davies, Tierney, Asamoah, Fortune-West.
Eilyddion: Shearer, Hall, Ashton, Canoville, Mike Jones.

Dyfarnwr: M Dean (Wirral)

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy