DARREN FERGUSON
Ymunodd Darren Ferguson â'r Dreigiau ym 1999 ac mae wedi bod yn aelod allweddol o ganol cae'r clwb byth er hynny. Credir iddo wrthod sawl cynnig i symud o'r Cae Ras yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf a phan fo Ferguson ar dân, mae'r Dreigiau'n tanio.
Yn amlwg, mae gan ei dad brofiad helaeth yn y byd rheoli, a phwy a ŵyr a fyddai Ferguson jr. yn gallu manteisio ar ei gysylltiadau cyn i'r ffenestr drosglwyddo gau!
BRIAN CAREY
Mae'r cyn amddiffynnwr yn boblogaidd tu hwnt ar Y Cae Ras ac ef fydd yn cymryd yr awenau ar gyfer y daith i Swindon ddydd Sadwrn. Mae Wrecsam y agos iawn at ei galon wedi iddo chwarae dros y clwb am naw mlynedd rhwng 1996 a 2005 yn ogystal â chyfnod ar fenthyg ar Y Cae Ras ym 1991.
Nid oes ganddo brofiad rheoli, ond mae'r un peth yn wir am Paul Ince, sydd wedi gwneud gwyrthiau gyda Macclesfield ers cymryd yr awenau yno ddiwedd mis Hydref.
BARRY HORNE
Dechreuodd Barry Horne ei yrfa â'r Dreigiau ac mae'n ffefryn ar Y Cae Ras wedi i'w gôl hwyr sicrhau buddugoliaeth enwog i Wrecsam yn erbyn Porto ym 1984. Ers ymddeol o chwarae pêl-droed mae Horne wedi bod yn dilyn cyrsiau hyfforddi er mwyn sicrhau ei fathodynnau.
Ar hyn o bryd mae'n gweithio fel athro mewn ysgol fonedd yng Nghaer ond mae'n cadw cysylltiad â'r byd pêl-droed trwy weithio fel arbenigwr i deledu lloeren a gorsaf radio annibynnol yn Lerpwl.
STEVE BLEASDALE
Wedi dod yn enwog am ei rôl yn y gyfres deledu 'realiti', "Big Ron Manager," mae cyn reolwr Peterborough bellach wrth y llyw gyda Bangor yn Uwchgynghrair Cymru. Pan gymrodd y swydd ar Ffordd Farrar, mynnodd Bleasdale ei fod yn dymuno dychwelyd i Gynghrair Lloegr.
Ac wedi cael blas ar bêl-droed Cymreig, pwy a ŵyr, efallai byddai ganddo awch i symud o'r gorllewin i'r dwyrain a chymryd y swydd ar Y Cae Ras.
A beth am un enw annisgwyl ...
ROY EVANS
Mae Roy Evans yn gyfarwydd â nifer o chwaraewyr Wrecsam oherwydd ei swydd fel is-reolwr Cymru. Mae Steve Evans, Mark Jones, Chris Llewellyn a Ryan Valentine wedi bod yn rhan o garfan Cymru ty ymor yma yn ogystal â nifer o chwaraewyr yn y tîm dan-21.
Mae'n ymwelydd cyson â'r Cae Ras ac mae wedi canmol adnoddau'r clwb ym maes ymarfer Mharc Colliers wedi i'r tîm cenedlaethol ymarfer yno cyn y gêm ddiweddar â Liechtenstein.
Mae BBC Cymru'r Byd yn gallu datgelu bod Andy Legg eisoes wedi gwneud cais am y swydd.
Mae cyn chwaraewr Abertawe, Caerdydd a Ipswich, enillodd wyth cap dros Gymru wedi cysylltu â'r Dreigiau i ddatgan ei ddiddordeb.
Nid oes gan Legg unrhyw brofiad rheoli, ond roedd yn is-reolwr yn Peterborough o dan Bleasdale.