BBC HomeExplore the BBC

SUL
5ed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 11 Ionawr 2007
Wrecsam yn diswyddo Smith

Mae clwb pêl-droed Wrecsam wedi diswyddo eu rheolwr Denis Smith a'r is-reolwr Kevin Russell yn dilyn canlyniadau siomedig diweddar.

Denis Smith
Mewn datganiad ar wefan y clwb, dywedodd y cyfarwyddwyr fod ganddynt lawer o barch tuag at Denis Smith, a'i fod wedi brwydro'n hir i sicrhau parhad y clwb.

Roeddent yn diolch i Denis Smith a Kevin Russell am eu gwaith. Serch hynny, dywedodd y cyfarwyddwyr nad oedd ganddyn nhw "ddim dewis" ond newid pethau, er mwyn caniatáu amser i'r clwb ennill rhagor o gemau.

Ychwanegodd y cyfarwyddwyr eu bod yn "uchelgeisiol dros ben" ac yn gobeithio y bydd y trefniant newydd yn eu galluogi i lwyddo yng Nghynghrair Dau.

Brian Carey fydd yn cymryd yr awenau ar gyfer yr ymweliad â Swindon Town ddydd Sadwrn.

> Pwy nesaf i'r Dreigiau?

Ymunodd Smith sydd yn gyn rheolwr â Rhydychen, West Brom, Bristol City, Sunderland a Chaerefrog, â Wrecsam yn 2001 wedi i Brian Flynn ymddiswyddo.

Llwyddodd i ennill dyrchafiad â'r Dreigiau yn 2003 a chipio Tlws yr LDV yn Stadiwm y Mileniwm yn 2005.

Ond disgynnodd Wrecsam i'r adran isaf o dan ofal Smith yn 2002 ac yn 2005 wedi i'r clwb golli 10 pwynt am fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy