BBC HomeExplore the BBC

SUL
5ed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 06 Ionawr 2007
Derby 3-1 Wrecsam

Mae Wrecsam allan o Gwpan yr FA wedi i hat-tric gan yr Eidalwr Arturo Lupoli sicrhau buddugoliaeth Derby County yn Pride Park.

Lee McEvilly

Sgoriodd Lupoli ei gôl gyntaf wedi 32 munud, ar ôl derbyn y bel gan Morten Bisgaard.

Cic gornel gan Bisgaard arweiniodd at yr ail gôl, gyda peniad Lupoli yn rhoi ei dîm ymhellach ar y blaen.

Manteisiodd Lee McEvilly ar gamgymeriad gwael gan Robert Malcolm i roi gobaith i Wrecsam gyda hanner awr yn weddill

Ac wrth i'r ymwelwyr bwyso, roedd Steve Evans yn camsefyll o drwch blewyn wrth rwydo gôl a fyddai wedi dod â Wrecsam yn gyfartal.

Ond gyda pum munud yn weddill sgoriodd Lupoli ei drydedd gôl i sicrhau buddugoliaeth y tîm cartref.

Er colli, roedd Denis Smith yn hapus gyda perfformiad ei dîm yn erbyn gwrthwynebwyr o'r Bencampwriaeth.

"Yr oeddwn yn meddwl ein bod wedi chwarae yn dda yn erbyn tîm sydd yn anelu am Uwchgynghrair Lloegr," meddai rheolwr Wrecsam.

"Bydd y cefnogwyr deithiodd i Derby wedi mwynhau eu hunain ac yn ymwybodol ein bod wedi dod yn agos i greu sioc."


Derby: Bywater, Edworthy, Moore, Michael Johnson, Camara, Bisgaard (Barnes 76), Malcolm (Smith 70), Oakley (Peschisolido 90), Jones, Lupoli, Howard
Eilyddion: Jackson, Seth Johnson.

Cerdyn melyn: Michael Johnson.

Goliau: Lupoli 32, 56, 85.

Wrecsam: Ingham, Valentine, Pejic, Steve Evans, Mike Williams, Crowell (Johnson 58), Danny Williams, Ferguson, Done, McEvilly, Llewellyn.
Eilyddion: Michael Jones, Spender, Marc Williams, Gareth Evans.

Cerdyn melyn: Valentine.

Goliau: McEvilly 61.

Torf: 15,609

Dyfarnwr: R Beeby (Swydd Northampton).

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy