|
Roedd Josh Johnson wedi dod â'r tîm cartref yn gyfartal yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf wedi i Paul Mullin roi Stanley ar y blaen yn dilyn dryswch llwyr yn amddiffyn Wrecsam wedi 16 munud.
Ond mewn gêm welodd camgymeriadau amddiffynol di-ri, yr ymwelwyr fanteisiodd yn ystod yr ail hanner wrth i Brown godi'r bêl dros Mike Ingham wedi 83 munud.
Ac er i Ingham arbed cic Andy Todd o'r smotyn tri munud yn ddiweddarach, llwyddodd Brown i ymateb yn gynt na neb gan rwydo i ymestyn mantais Stanley.
Wrecsam: Ingham, Roche, Pejic, Steve Evans, Valentine, Johnson,
Crowell, Ferguson, Done, Marc Williams, Llewellyn.
Eilyddion: McEvilly, Michael Jones, Mike Williams, Gareth Evans, Smith.
Accrington Stanley: Elliot, Ricky Baines, Williams, Welch,
Richardson, Todd, Harris, Proctor, Whalley, Mullin, Brown.
Eilyddion: Fearon, Smith, Bell, Murphy, Jacobson.
Dyfarnwr: M Dean (Wirral)
 |