|
Mae'r chwaraewr 20-mlwydd-oed wedi cytuno i symud i'r Cae Ras am fis yn dilyn anafiadau Neil Roberts a Lee McEvilly.
Gwnaeth Craddock, oedd yn aelod o dîm Boro a gipiodd Gwpan Ieuenctid FA Lloegr yn 2004, ei ymddangosiad cyntaf yn Uwchgynghrair Lloegr tymor diwethaf wrth ddod i'r maes fel eilydd yn erbyn Fulham.
Llwyddodd i rwydo dwy gôl i ail dîm Middlesbrough yn erbyn ail dîm Lerpwl ar Y Cae Ras wythnos diwethaf.
 |