BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
14eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 20 Hydref 2005
Ugarte yn dychwelyd i Wrecsam

Mae ymosodwr a chyn ffefryn Y Cae Ras, Juan Ugarte, wedi dychwelyd i'r Dreigiau, tri mis yn unig wedi iddo adael Y Cae Ras ac ymuno â Crewe Alexandra.

Darren Ferguson a Juan Ugarte'n dathlu wedi cipio Tlws yr LDV
Bydd y gŵr o Wlad y Basg yn dychwelyd i'r Dreigiau ar fis o fenthyg wedi'r clwb gael caniatâd gan y Gynghrair Bêl-droed.

"Os oedd am fynd i unrhywle ar fenthyg roedd am ddod atom ni," meddai rheolwr Wrecsam, Denis Smith, wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru.

Mae Wrecsam wedi cael caniatâd gan y Gynghrair Bêl-droed ar gyfer "benthyciad mewn argyfwng"

Dim ond 20 chwaraewr all y clwb gyflogi ar unrhyw adeg gan eu bod yn nwylo'r gweinyddwyr.

Ond mae rhestr anafiadau hir yn golygu mai 13 chwaraewr holliach yn unig oedd gyda'r clwb ar gyfer sesiwn ymarfer ddydd Iau.

Ychwanegodd Smith: "Rwy'n hapus iawn i'w groesawu yn ôl. Mae yma am fis ar y funud ond rwy'n gobeithio fydd yma'n hirach."

"Rwy'n obeithiol gal rwydo un neu ddau gôl yn y gemau nesaf a fydd hynny'n sicrhau canlyniadau ffafriol.

"Yna mae gennym gêm gartref a rwy'n gobeithio bydd hyn yn ychwanegu at y dorf - byddai hynny'n dda iawn i ni.

"Rydym eisiau cael allan o'r adran yma a rwy'n gobeithio bydd Juan yn helpu ni wneud hynny."

Nid yw Ugarte wedi sgorio dros Crewe eleni ond dywedodd eu rheolwr, Dario Gradi nad yw wedi anghofio amdano.

"Rwyf wedi dweud bod yn iawn iddo fynd allan am fis neu ddau. Ni fyddwn yn disgwyl iddo ddod yn ôl oni bai fy mod am ei roi yn y tîm cyntaf, meddai wrth safle we Crewe.

"Nid ydym wedi rhoi'r ffidil yn y tô efo fo eto, mae hynny'n sicr."

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy