Daw penodiad Prestatyn wedi i Airbus UK Brychdyn benodi Darren Ryan fel eu rheolwr yn lle Craig Harrison. O dan y rheolau mae'n ofynnol bod rheolwyr clybiau'r Uwchgynghrair yn meddu ar gymhwyster yr UEFA Pro Licence. Gan nad yw Neil Gibson o Brestatyn a Harrison o Airbus yn meddu'r cymhwyster mae'r clybiau wedi gorfod penodi rheolwyr newydd. Mae Prestatyn wedi penodi cyn ymosodwr Lerpwl, Wrecsam a Chymru Lee Jones fel rheolwr y tîm cyntaf gan olynu Gibson. Mae Gibson wedi ymgymryd â rôl fel cyfarwyddwr pêl-droed y clwb swydd y mae Harrison hefyd wedi ei dderbyn gydag Airbus.
 |