|
Wedi hanner cyntaf di-sgôr fe aeth y pencampwyr ar y blaen wedi 47 munud gyda Marc Connolly yn sgorio. Yn fuan wedyn yr oedd Lee Hunt wedi rhwydo ddwywaith i ymestyn eu mantais cyn i Geraint Lewis sgorio gôl gysur o'r smotyn i'r ymwelwyr. Mae Port Talbot yn bumed wedi buddugoliaeth o 3-0 oddi cartref yn erbyn Gap Cei Conna. Yr oedd yr ymwelwyr ar y blaen wedi 32 eiliad o'r gêm yn unig diolch i gôl Martin Rose gyda Drew Fahiya a Liam McCreesh yn sicrhau'r fuddugoliaeth yn yr ail hanner. Mae Porthmadog wedi codi o waelod y tabl diolch i fuddugoliaeth gartref yn erbyn Prestatyn a'r ffaith i Gaersws golli ar y Belle Vue. Gareth Parry ac Aden Shannon sgoriodd wrth i dîm Tomi Morgan sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor yn y gynghrair. Gohiriwyd y gemau rhwng Derwyddon Cefn a Hwlffordd a'r Drenewydd yn erbyn Caerfyrddin oherwydd y tywydd. Yn ogystal fe gafodd gemau nos Wener ym Mangor, Castell Nedd a'r Bala eu gohirio.
 |