|
Roedd hi'n brynhawn rhwystredig i'r tîm cartre' ar y Belle Vue gyda Mark Connolly yn methu sawl cyfle da i'r Rhyl yn yr hanner cynta'. Yr agosa' y daeth yr ymwelwyr at gôl oedd pan darodd Rhys Griffiths y trawst. Mae'r Rhyl a Chastell-nedd yn gyfartal ar y brig gyda 24 pwynt ond mae gan Y Rhyl well gwahaniaeth goliau. Tri phwynt o fantais sydd ganddynt ar dri chlwb - Llanelli, Y Seintiau Newydd a Prestatyn. Ar Barc Waun Dew, cyfartal dwy gôl yr un oedd y sgôr terfynol rhwng Caerfyrddin a Bangor. Tim Hicks a Nicky Palmer rwydodd i'r tîm cartre' gyda Jamie Reed yn taro nôl i'r ymwelwyr cyn yr egwyl. Sgoriodd Marc Limbert, sydd newydd ei benodi yn is-reolwr y clwb, yn yr ail hanner i gipio pwynt i Fangor. Colli gartre' am y pumed tro y tymor hwn fu hanes Caersws. Roedd y goliau i gyd yn yr hanner cynta' gyda Port Talbot yn fuddugol o 2-1. Liam McCreesh a Drew Fahiya sgoriodd goliau tîm Mark Jones, gyda Matthew Prosser â gôl gysur y tîm cartre'. Ac yn y gêm rhwng dau dîm tua'r gwaelod enillodd y Trallwng gartre' am y tro cynta' y tymor hwn. Goliau Peter Doran a Tim Edwards yn yr ail hanner yn rhoi achos dathlu i dîm Huw Griffiths. Nid yw Porthmadog wedi ennill yn y cynghrair y tymor hwn.
 |