|
Yr hen ben Glyndwr Hughes sgoriodd y gôl dyngedfennol wedi 64 munud ar ôl dod ymlaen fel eilydd. Hon oedd pedwaredd fuddugoliaeth o'r bron i Aber. Mae Castell Nedd wedi camu uwchben Y Rhyl i frig y tabl wedi buddugoliaeth oddi cartref yn Hwlffordd diolch i ddwy gôl gynnar o fewn munud gan Craig Steins. Hanerodd Jamie Bradford y bwlch wedi hanner awr ond llwyddodd Castell Nedd i amddiffyn eu mantais. Mae'r Seintiau Newydd wedi codi i'r trydydd safle yn dilyn buddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Elements Derwyddon Cefn. Sgoriodd Aeron Edwards hat-tric ar ôl i Craig Jones agor y sgorio o'r smotyn wedi 10 munud. Roedd hi'n ddi-sgôr ar hanner amser rhwng Airbus UK Brychdyn a Gap Cei Conna, ond sgoriodd Airbus pedair gwaith yn yr ail hanner i gipio'r pwyntiau. A chipiodd y Drenewydd pwynt oddi cartref ym Mhrestatyn diolch i gôl Gavin Cadwallader wedi pedwar munud o amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm.
 |