BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 04 Tachwedd 2009
Morgan yw rheolwr newydd Aber

Mae Aberystwyth wedi penodi Alan Morgan yn rheolwr newydd y clwb.

Alan Morgan

Bu Morgan, sy'n 35, yn ddirprwy i reolwr Bangor Nev Powell ers ychydig dros ddwy flynedd, gan helpu'r clwb i ennill Cwpan Cymru dwywaith yn olynol.

Christian Edwards, sydd wedi bod wrth y llyw ers ymddiswyddiad Brian Coyne ym mis Medi, fydd is-reolwr newydd Morgan.

Mae Morgan, fu wrth y llyw gyda Derwyddon Cefn am gyfnod byr, yn bennaeth ar academi Tranmere Rovers ac yn gweithio tuag at sicrhau trwydded Hyfforddi A Uefa.

"Rydym wrth ein boddau gyda phenodiad Alan," meddai rheolwr gyfarwyddwr Aberystwyth Tony Bates.

"Mae hyn yn sicrhau fod y clwb yn gallu defnyddio profiad hyfforddi eang Alan tra ar yr un pryd yn ein galluogi i adeiladu ar y gwaith gwych mae Christian wedi ei wneud fel rheolwr dros dro."

Mae Morgan yn ewythr i gapten y clwb, Bari Morgan.

Roedd cyn-reolwr Y Rhyl Alan Bickerstaff a chyn-reolwr Llanelli Leighton James wedi cael eu hystyried ar gyfer swydd ar Goedlan y Parc.

Mae Aberystwyth wedi codi i'r chweched safle yn Uwch Gynghrair Cymru yn dilyn tair buddugoliaeth yn olynol.

Mae disgwyl i gapten Bangor Marc Limbert gael ei benodi yn ddirprwy i Powell.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy