BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 31 Hydref 2009
Y Rhyl yn trechu deg dyn Penybont

Er iddynt frwydro'n ôl ddwywaith ar y Belle Vue, fe brofodd Y Rhyl yn rhy gryf i ddeg dyn Pen-y-bont yn Nhrydedd rownd Cwpan Cymru brynhawn Sadwrn.

Derbyniodd obeithion yr ymwelwyr ergyd o fewn 32 eiliad i'r chwiban gyntaf pan gafodd yr amddiffynnwr Atif Bashir ei ddanfon o'r maes.

Sgoriodd Marc Connolly i roi'r Rhyl ar y blaen wedi 17 munud ond roedd Pen-y-bont yn gyfartal yn fuan yn yr ail hanner gyda Gianluca Palladino yn sgorio o'r smotyn.

Roedd y Rhyl yn ôl ar y blaen naw munud yn ddiweddarach diolch i gôl Matty Williams ond i Vinny Wattleworth unioni'r sgôr wedi awr o chwarae.

Ond fe brofodd unarddeg dyn y Rhyl yn ormod i'r ymwelwyr yn y ddeg munud olaf gyda'r chwaraewr-rheolwr Greg Strong a Chris Williams yn sgorio i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy sgoriodd Andy Olsen yn ystod yr amser ychwanegol wrth i Gap Cei Conna drechu Airbus o 3-2.

Yr oedd Olsen wedi rhoi Cei Conna ar y blaen wedi 42 munud cyn i Rhys Roberts ddod â Airbus yn gyfartal wedi 61 munud.

Gyda chwarter awry n weddill fe sgoriodd Tom Baker o'r smotyn i adfer mantais Cei Conna ond i Gio Feliciello sicrhau hanner awr o amser ychwanegol gyda gôl hwyr i'r ymwelwyr.

Roedd gol gan Peter Hoy yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i'r deiliad Bangor yn y Fflint gyda'r Seintiau Newydd yn fuddugol o 2-0 oddi cartref yn erbyn Cambrian a Chlydach.

Mark Harris sgoriodd unig gôl y gêm i'r Bala yn erbyn Llanrug ac roedd Caersws yn fuddugol o 4-1 yng Nghoedpoeth.

Sgoriodd Martin Rose ddwywaith i Bort Talbot oddi cartref yng Nghil y Coed ac fe sgoriodd Neil Gibson ddwy gôl i Brestatyn yn eu buddugoliaeth gartref o 3-0 yn erbyn Cwins Bae Caerdydd.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy