|
Daeth antur Llanelli yn Ewrop i ben ar Barc y Scarlets nos Iau gyda'r Albanwyr yn ennill o 3-0 yn ail gymal rownd ragbrofol cyntaf y gystadleuaeth newydd.
"Rhaid i ni ddysgu gwersi," meddai'r chwaraewr-rheolwr, oedd wedi arwain ei dîm i fuddugoliaeth o 1-0 wythnos ynghynt yn y cymal cyntaf yn yr Alban.
"'Da ni'n teimlo'n isel. Da ni'n gweld y chwaraewyr unwaith yr wythnos, maen nhw gyda'i gilydd pob dydd. Roedd eu safon a'u ffitrwydd yn llawer gwell.
"Mae e lan i ni ennill ein cynghrair yn awr ac i wneud yn siŵr ein bod yma unwaith eto'r flwyddyn nesaf."
Roedd Legg yn cydnabod bod ildio gôl gynnar wedi wyth munud wedi gwneud y dasg yn un anodd i'w dîm.
"Ry' ni'n siomedig. Ond fe allem ni wedi rhoi'r ffidil yn y to a bydde hi wedi bod yn llawer gwaeth.
"Fe gaetho ni gwpwl o hanner cyfleoedd ond doedd hi ddim am fod ein noson."
 |