Chwaraeon Pêl-droed Abertawe Caerdydd Wrecsam Uwchgynghrair Cymru Pêl-droed Cyffredinol Rhyngwladol Rygbi Rhyngwladol Rhanbarthol Athletau Beicio Bocsio Criced Cyffredinol Golff Moduro Olympaidd Rasio Ceffylau Rygbi XIII Snwcer Tenis Canlyniadau
Mae'r Seintiau Newydd allan o Gynghrair Ewropa ar ildio'r fantais yn yr ail gymal y rownd rhagbrofol yn erbyn Fram Reykjavik o Gwlad yr Ia.
Fe roddodd Steve Evans y tîm cartref ar y blaen wedi 12 munud i gynnig gobaith i'r tîm o Uwchgynghrair Cymru.
Ond pum munud yn ddiweddarach fe unionodd Almar Ormarsson y sgôr i'r ymwelwyr.
A gyda 24 munud yn weddill fe seliodd Sam Tillen Hjalmar y fuddugoliaeth gyda chic o'r smotyn yn dilyn tacl flêr ar Hjalmar Thorarinsson.