|
Ar ôl i dim Andy Legg greu sioc drwy guro Motherwell 1-0 yng nghymal cyntaf rownd rhagbrofol Cwpan Ewropa fe brofodd yn Albanwyr yn llawer rhy gryf i'w gwrthwynebwyr ar Barc y Scarlets.
Ar ôl methu cyfle euraidd i roi ei dim ar y blaen wedi tri munud fe wnaeth Sutton yn iawn am ei gam pedair munud yn ddiweddarach gyda pheniad nerthol hebio Morris yn dilyn croesiad gan Steven Hammell.
Ac yn dilyn gwaith da lawr yr asgell chwith gan Paul Slane oedd Sutton wrth law unwaith eto i fanteisio ar farcio slac yn yr amddiffyn i rwydo ei ail.
Gwelwyd dechrau llawer mwy pwrpasol gan Llanelli ar ddechrau'r ail hanner a dim dau arbediad gwych gan Michael Fraser wnaeth atal peniad Chris Mumford rhag canfod cefn y rhwyd.
Ond fe sicrhaodd Murphy mai Motherwell fydd yn teithio i Latfia i wynebu KS Flamurtari Vlore yn y rownd nesaf wrth iddo drosi cyffyrddiad hyfryd Jim O'Brien gyda'i cyffyrddiad cyntaf ers dod ymlaen fel eilydd.
Llanelli: Ashley Morris, Phillips, Stuart Jones, Thomas,
Howard, Mumford, Venables, Corbisiero, Legg, Follows, Griffiths.
Eilyddion: Craig Morris, Jenkins, Bowen, Holloway, Warlow, Moses,
Craig Jones.
Motherwell: Fraser, Saunders, Craigan, Reynolds, Hammell,
Forbes, Slane, Lasley, McGarry, O'Brien, Sutton. Eilyddion: Kosiorowski, Murphy, Fitzpatrick, Archdeacon, Hutchinson, Page, McHugh.
Torf: 3,025
Dyfarnwr: Milorad Mazic (Serbia)
 |