|
Fe fydd Evans yn derbyn cymorth Dave Taylor, oedd yn rheolwr yr Adar Gleision yn Uwchgynghrair Cymru y tymor diwethaf. Cyn gadael ym mis Mehefin 2007 roedd Evans wedi bod wrth y llyw yng Nghaersws ers tymor cyntaf Cynghrair Cymru ym 1992. Wedi ei eni yng Nghaersws roedd Evans wedi dechrau ei yrfa fel prentis 15 oed gyda Wolverhampton Wanderers gan droi'r broffesiynol dwy flynedd yn ddiweddarach. Symudodd i Wrecsam ym 1966 a bu gyda'r clwb am 15 mlynedd gan chwarae dros 500 o gemau i glwb y Cae Ras. Fe ddaeth Evans yn ôl i glwb ei bentref genedigol ym 1983 ac yn ystod ei gyfnod wrth y llyw fe gipiodd yr Adar Gleision Cwpan y Gynghrair deirgwaith yn ogystal â chystadlu yng Nghwpan Inter Toto. Ers gadael Caersws ddwy flynedd yn ôl bu Evans yn gwneud gwaith sgowtio i'w gyn glwb Wrecsam. Er gorffen yn ail o waelod y tabl y tymor diwethaf, mae safle Caersws yn yr Uwch Gynghrair yn ddiogel am dymor arall. Mae hynny oherwydd bod Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi atal ENTO Aberaman rhag esgyn i Uwch Gynghrair Cymru.
 |