Profodd gôl Stuart Jones yn ddigon i'r Cochion i guro'r tîm o Uwch Gynghrair yr Alban ar eu tomen eu hun yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa - a hynny yng ngem gyntaf Legg wrth y llyw.
"Fe all y chwaraewyr fod yn hynod falch o'u hunain," dywedodd Legg ar ôl y fuddugoliaeth yn Airdrie.
"Dyma'r fuddugoliaeth orau yn hanes Llanelli ac mae hi'n wych i fod yn rhan o hynny. Hon oedd fy ngêm gystadleuol gyntaf i fel y rheolwr, ac mae hynny'n beth gwych i mi.
Ymateb amddiffynnwr Llanelli Wyn Thomas wedi'r fuddugoliaeth
"Ond mae'r tîm hyfforddi wedi bod yn wych a 'da ni i gyd wedi gweithio'n galed fel tîm."
Cyn y gêm nos Iau, roedd Llanelli wedi ennill tair gêm yn Ewrop ond prin fod y llwyddiannau hynny hanner cystal â'r fuddugoliaeth yn erbyn un o brif dimau'r Alban.
Dywedodd yr amddiffynnwr, Wyn Thomas, mai agwedd a dycnwch y chwaraewyr oedd cyfrinach y llwyddiant.
"Fe wnaeth pawb weithio'n galed a rhoi eu calon i mewn i'r gêm," dywedodd Thomas, ddaeth ymlaen fel eilydd wedi 16 munud.
"Roedd hi'n ganlyniad arbennig o dda ac mae pawb yn hapus iawn.
"Roedd Motherwell yn dîm da iawn ac yn pasio'r bêl yn slic ond roedd ein hamddiffyn o'r llinell flaen i'r cefn yn arbennig o dda."
Bydd ar ail gymal yn cael ei chwarae ar Barc y Scarlets ddydd Iau nesaf, ac mae disgwyl i dros 1,000 o gefnogwyr Motherwell deithio i Gymru i wylio.
Ac er sicrhau mantais o'r cymal gyntaf - gan gynnwys gôl oddi cartref hollbwysig - mynnodd Legg mai Motherwell yw'r ffefrynnau i fynd ymlaen i'r rownd nesaf.
"Mae ganddyn nhw gyfle arall - dydi hi ddim fel gêm gwpan sy'n cael ei phenderfynu ar ôl un gêm," dywedodd Legg.
"'Da ni'n gwybod bod nhw am ddod yn ôl yn gryf. Maen nhw'n gwybod ychydig mwy amdanom ni rŵan hefyd.
"Mi fydd hi'n gêm anodd arall i ni, ond efo'r agwedd iawn ac ychydig bach o lwc, pwy a ŵyr beth neith ddigwydd?"