BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 02 Gorffennaf 2009
Motherwell 0-1 Llanelli

Sgoriodd Stuart Jones unig gôl y gêm wrth i Lanelli sicrhau buddugoliaeth enwog yng nghymal cyntaf rownd ragbrofol cyntaf Cynghrair Europa.

Stuart Jones yn dathlu

Roedd hi'n noson gofiadwy i Andy Legg yn ei gem gyntaf wrth y llyw ond un y bydd rheolwr newydd Motherwell, Jim Gannon eisiau anghofio.

Motherwell, oedd wedi gorfod symud y gêm i Stadiwm Excelsior yn Airdrie oherwydd gwaith chynnal a chadw i faes Fir Park, gafodd y gorau o'r meddiant.

Ond fe aeth Llanelli ar y blaen yn annisgwyl wedi 28 munud yn dilyn un o'u hymosodiadu prin.

Sgoriodd Stuart Jones gyda pheniad dyma'n curo'r golwr Michael Fraser yn dilyn cic gornel gan Legg.

Er ymdrechion gorau Motherwell i daro'n ôl ni lwyddodd y tîm o Uwchgynghrair yr Alban i fanteisio ar eu cyfleoedd.

Prin iawn fu ymosodiadau gan y tîm o Uwchgynghrair Cymru gyda Rhys Griffiths yn aml yn canfod ei hun heb gymorth wrth arwain y llinell flaen.

Yn ogystal â sicrhau buddugoliaeth enwog fe fydd Llanelli yn dychwelyd i Gymru ar gyfer yr ail gymal ym Mharc y Scarlets ymhen wythnos gyda'r fantais o gôl oddi cartref hollbwysig.


Motherwell: Fraser, Saunders, Craigan, Reynolds, Hammell, O'Brien, Lasley, Forbes, McGarry, Sutton, Murphy.
Eilyddion:Kosiorowski, Darren Smith, Fitzpatrick, Hutchinson, Page, McHugh, Slane.

Llanelli: Ashley Morris, Legg, Howard, Stuart Jones, Jarman, Phillips, Mumford, Corbisiero, Venables, Griffiths, Craig Jones.
Eilyddion: Craig Morris, Jenkins, Thomas, Warlow, Moses, John, Follows.

Torf: 4,307

Dyfarnwr: Tero Nieminen (Y Ffindir)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy