Er i'r Rhyl ddechrau'n dda, yr ymwelwyr aeth ar y blaen ar ôl chwarter awr â gôl gan Toni Lehtinen.
Ond tarodd y tîm cartref yn ôl cyn yr egwyl â dwy gôl gan yr ymosodwyr, Andy Moran a Lee Hunt.
A llwyddodd y Lillywhites i ymestyn eu mantais a selio buddugoliaeth wych wrth i Craig Garside droi'r bêl i'r rhwyd dau funud wedi'r egwyl .
Gorffennodd yr ymwelwyr â 10 dyn wedi i'r eilydd Varno Mattila gael ei hel o'r maes yn y funud olaf am dacl erchyll ar Jamie Brewerton.
Roedd Y Rhyl wedi dechrau'n dda gan ddefnyddio cyflymder Hunt i greu pob math o broblemau yng nghwrt cosbi'r tîm o'r Ffindir.
Ond wedi 15 munud, torrodd Haka'n gyflym i lawr yr asgell dde a llwyddodd Mikko Mahninen i ganfod Toni Lehtinen yn rhydd yn y cwrt cosbi i roi'r ymwelwyr ar y blaen.
Gwrthododd Y Rhyl ag ildio ac fe gafodd y Lillywhites eu haeddiant wrth i Moran rwydo eu gôl gyntaf ar ôl 27 munud.
Croesodd Mark Connolly yn ddwfn at y postyn pellaf lle'r oedd Moran yn rhydd i daro ergyd fendigedig i gornel uchaf y rhwyd.
Methodd Alexander Dovbnya a dal taran o gic rydd gan James Kelly wedi 36 munud ac roedd Hunt yn yr union fan i rwydo ail gôl Y Rhyl.
A bu bron i Hunt ymestyn eu mantais ymhellach cyn yr egwyl wedi dryswch llwyr rhwng Jarrko Okkonen a'i golwr ond llwyddodd yr amddiffynnwr i wneud yn iawn am ei gamgymeriad ar yr eiliad olaf.
Fe ddaeth y drydedd gôl yn gynnar yn yr ail hanner yn dilyn
cyd-chwarae hyfryd i lawr yr asgell chwith rhwng Hunt a Moran.
Crëwyd digonedd o le i Stuart Graves daro croesiad perffaith i'r cwrt chwech lle'r oedd cyn chwaraewr dan-19 Cymru, Garside, yn disgwyl i droi'r bêl i'r rhwyd.
Cafodd y tîm cartref ddihangfa wedi 54 munud wrth i'r dyfarnwr o Wlad Belg, Peter Vervecken, wrthod gôl gan am drosedd yn y cwrt bach.
A bu rhaid i John Gan fod yn effro i arbed ergyd gan Cheyne Fowler yn y munudau olaf.
Roedd rhwystredigaeth yr ymwelwyr yn amlwg wrth i'r gêm ddirwyn i ben a chafodd Mattila ei hel o'r maes yn y funud olaf am dacl wirion ar Brewerton o dan drwyn y dyfarnwr.
Llwyddodd Y Rhyl i sicrhau eu lle yn yr ail rownd ragbrofol yn 2005 wedi buddugoliaeth dros Atlantas Klaipeda o Lithwania ac mae ganddyn nhw gyfle euraidd i efelychu'r gamp honno pan fyddan nhw'n teithio i'r Ffindir ar 2 Awst.
Y Rhyl: Gann, Powell, Brewerton, Connolly, Horan (capt), Ruffer, Garside, Kelly, Hunt, Moran, Graves
Eilyddion: Whitfield, Cameron, Roberts, Holt, Jones, Desormeaux, Coffin.
Haka: Dovbnya, Kangaskorpi, Okkonen, Strandvall, Innanen, Kauppila, Manninen, Parviainen, Lehtinen, Fowler, Holopainen
Eilyddion: Viik, Ullanen, Pajula, Rosenberg, Mahlakaarto, Sunabacka, Mattila
Dyfarnwr: Peter Vervecken (Gwlad Belg)