Roedd naw chwaraewr rhyngwladol yn nhîm yr ymwelwyr a llwyddodd dau o'r rhain, Robbie Winters a Thorstein Helstad, i rannu pum gôl rhyngddyn nhw cyn yr egwyl.
Bachodd yr Albanwr, Winters, dair gôl gyda Kristjan Sigurdsson, Jan Solli ac Armann Bjornsson yn cwblhau'r grasfa yn yr ail hanner ar Barc Waun Dew.
Ac i wneud pethau'n waeth i'r tîm cartref cafodd Neil Smothers ei hel o'r maes am weld dau gerdyn melyn.
Caerfyrddin: N Thomas, Hancock, Smothers, Palmer, Warton, K Thomas, Walters, Ramasut, Fowle, Hicks, Cotterrall.
Eilyddion: D Thomas, Davies, Hughes, Adams, Poole.
SK Brann: Thorbjornsen, Dahl, Bjarnason, Sigurdsson, Hanstveit, Huseklepp, Andresen, Gunnar Solli, Moen, Winters, Helstad.
Eilyddion: Opdal, Guntveit, Corrales, Jaiteh, Bjørnsson, Gashi.
Torf: 769
Dyfarnwr: Vitaliy Godulyan (Wcrain)
 |