BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 29 Ebrill 2007
Llangefni'n esgyn heb gicio pêl

Llwyddodd Clwb Pêl-droed Llangefni i esgyn i Uwchgynghrair Cymru brynhawn Sadwrn er nad oedd gan yr ynyswyr gêm yn Nghynghrair Undebol y Gogledd.

Llwyddodd Hotspur Caergybi i sicrhau gêm di-sgôr â'r Bala ar yr Ofal Newydd, Caergybi, canlyniad sydd yn golygu mai Llangefni yw pencampwyr Cynghrair Undebol y Gogledd.

Ac roedd cadeirydd Llangefni, Gwynfor Parry, wrth ei fodd â'r canlyniad.

"Mae'n rhyfedd ennill dyrchafiad heb gicio pêl, ond mae'n deimlad arbennig gwybod y byddwn ni yn yr Uwchgynghrair y tymor nesaf," meddai wrth BBC Cymru'r Byd.

"Bydd yn wych i'r ynys fod 'na dîm ym mhrif adran pêl-droed Cymru a bydd yn andros o her i ni hefyd."

Ond cyfaddefodd bod y bwlch rhwng Cynghrair Undebol y Gogledd ac Uwchgynghrair Cymru yn un enfawr.

"Rŵan mae'r gwaith caled yn dechrau," meddai. "Ond mae'n bwysig ein bod ni'n sefydlu ein hunain yn y gynghrair y tymor nesaf."

Bydd gwŷr Adie Jones yn derbyn y tlws nos Fercher ar ôl eu gêm gartref â Hotspur Caergybi ar Faes Bob Parry.

Yn y de, mae CPD Athletic Castell Nedd yn parhau ar frig Cynghrair Cymru'r De wedi gêm gyfartal 1-1 â Phontypridd nos Wener.

Roedd Chris Summers wedi rhoi Ponty ar y blaen ond brwydrodd 10-dyn Castell Nedd yn ôl â gôl gan Matthew Rees yn yr ail hanner.

Dim ond un pwynt sydd ei angen ar Gastell Nedd i sicrhau dyrchafiad a gyda tair gêm yn weddill mae pethau'n edrych yn dda i dîm Athletic.

Ond mae dau o gyn-glybiau'r Uwchgynghrair wedi disgyn unwaith eto wrth i'r Bari a Quins y Grange ddisgyn i Adran Dau Cynghrair Cymru'r De.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy