BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Newidiwyd diwethaf: 13 Gorffennaf 2006
Y Rhyl 0-0 FK Suduva

Bu'n rhaid i'r Rhyl fodloni gyda gêm ddi-sgôr yng nghymal gyntaf rownd rhagbrofol gyntaf Cwpan UEFA yn erbyn FK Suduva o Lithwania ar y Belle Vue.

(Llun: Aled Williams)

Daeth cyfle gorau'r tîm cartref pan beniodd Jamie Brewerton heibio'r postyn wedi 72 munud.

Chwe munud yn ddiweddarach yn dilyn cic rydd, peniodd yr eilydd Chris Sharp heibio'r postyn gyda'r golwr Gytis Padinauskas yn ei unfan.

Mewn gêm o ychydig gyfleoedd i'r naill dîm, daeth yr ymwelwyr yn agos tua diwedd yr hanner cyntaf gydag arbed Paul Whitfield yn rhwystro ergyd Otavio Augusto Braga. Chris Sharp yn gweld ei beniad yn mynd heibio'r postyn (Llun: Aled Williams)

Daeth gôl Suduva hefyd dan bwysau cyn yr egwyl bu'n rhaid i Padinauskas bwnio'r bêl yn dilyn cic gornel Marc Connolly.

Stori digon tebyg oedd hi yn yr ail hanner, ond i'r tîm cartref orffen yn gryf wrth chwilio am y gôl.

Bydd Rhyl yn teithio i Lithwania ar gyfer yr ail gymal ymhen pythefnos.


Y Rhyl: Whitfield, Mark Powell, Horan, Tim Edwards, Brewerton, Connolly, Wilson, Murtagh, Moran, Hunt, Hay.
Eilyddion: Gann, Sharp, Moody, Gary Powell, Owen, Burrows, Rafferty.

FK Suduva: Padimanskas, Davit Cigladze, Gvildys, Grigas, Mikuckis, Miklinevicius, Cordeiro, Adomaitis, Urbsys, Maciulis, Braga.
Eilyddion: Saulius Klevinskas, Besik Cigladze, Maciulevicius, Giedrius Slavickas, Uselis, Samusiovas, Abramenko.

Dyfarnwr: Lassin Isaksen (Ynysoedd y Faroe).

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy