BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Diweddarwyd: 31 Mawrth 2011

Balchder Ramsey wrth arwain Cymru

Mae Aaron Ramsey wedi sôn am y balchder o arwain Cymru fel capten am y tro cyntaf yn erbyn Lloegr y Sadwrn diwethaf.

Aaron Ramsey
Yn 20 oed, Ramsey yw capten ieuengaf Cymru erioed ond dechreuodd ei gyfnod ar nodyn siomedig wrth i Loegr ennill o 2-0 yn Stadiwm y Mileniwm.

Serch hynny roedd chwaraewr canol Arsenal yn falch iawn o fod yn gapten y tîm cenedlaethol.

"Roeddwn yn browd iawn i arwain y bechgyn mas ar y cae," meddai Ramsey mewn cyfweliad Cymraeg gyda BBC Cymru.

"Ond roedd y canlyniad wedi rhoi dipyn bach o ar y diwrnod i mi.

"Fi ddim yn mynd i sgrechian at unrhyw un.

"'Dwi am arwain drwy esiampl a gobeithio y ffordd fi'n chwarae dwi'n gallu bod yn gapten fel hynny.

"Roedd yr hanner cyntaf yn siomedig ond yn yr ail hanner [roeddem[ dipyn bach yn well.

"Roedd y bechgyn wedi chwarae'n well yn yr ail hanner ac roedd 'na bositifs wedi dod o hynny.

"Roedd pawb yn edrych ymlaen at chwarae ond ar y diwrnod doedden ni ddim wedi troi fyny yn yr hanner cyntaf."

Mae'r golled yn erbyn Lloegr y Sadwrn diwethaf yn golygu bod Cymru ar waelod Grŵp G yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2012.

Bydd tîm Gary Speed yn gorfod disgwyl tan fis Medi am eu gêm nesaf yn y grŵp pan fydd Montenegro yn ymweld â Chymru.

Cyn hynny bydd gemau yn erbyn Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon yng Nghwpan y Cenhedloedd yn Nulyn.

Ac mae Ramsey wedi dweud y bydd Cymru yn awyddus i ddod a'u rhediad truenus o bum colled yn olynol i ben.

"Ni eisiau mynd allan ar y cae cyn gynted a phosib i ni fe'n iawn," meddai Ramsey.

"Roedd y canlyniad ar y penwythnos yn siomedig i ni a ni eisiau rhoi hynny yn iawn yn fuan."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy